Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (69)v4 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud) |
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud) |
3. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4998 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod:
a) 40% o ddisgyblion yn dechrau’r ysgol uwchradd ag oed darllen sydd o leiaf chwe mis yn is na’u hoed cronolegol, yn ôl Adroddiad Blynyddol Estyn 2010/2011;
b) perfformiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2009 yn is o lawer na gwledydd eraill y DU;
c) dirywiad wedi bod yn nifer y disgyblion yng Nghymru sy’n cyflawni’r graddau uchaf mewn arholiadau Safon Uwch;
d) perfformiad mewn arholiadau TGAU a Safon Uwch yng Nghymru yn waeth nag yn Lloegr; ac
e) ar hyn o bryd nad oes dim Prifysgolion o Gymru yn rhestr y Times o’r 200 o'r sefydliadau addysg uwch gorau yn y byd er bod 27 o Loegr a 5 o’r Alban.
2. Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ei chyllidebau addysg yn effeithiol i godi safonau yn system addysg Cymru.
3. Yn annog Llywodraeth Cymru i amlinellu sut y caiff gwariant addysg ei fonitro i sicrhau bod adnoddau, pan fo’n bosibl, yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n cyflenwi gwasanaethau’n uniongyrchol i ddysgwyr.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail flaenoriaethu gwariant addysg yn effeithiol er mwyn darparu gwelliannau mewn cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru yn y ffordd orau.
Gellir gweld Adroddiad Blynyddol 2010/11 Estyn drwy fynd i: http://www.estyn.gov.uk/cymraeg/adroddiad-blynyddol/adroddiadau-blynyddol-2010-2011/
Gellir gweld rhestr y Times o’r 200 o’r sefydliadau addysg uwch gorau yn y byd drwy fynd i: http://www.timeshighereducation.co.uk/world-university-rankings/2011-2012/top-400.html
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 4.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r grant amddifadedd disgyblion sydd wedi’i anelu at wella cyrhaeddiad addysgol disgyblion difreintiedig.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwario’r grant amddifadedd disgyblion yn cael ei fonitro’n effeithiol er mwyn iddo gyflawni gwelliannau mewn cyrhaeddiad.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau i gynyddu’r grant amddifadedd disgyblion mewn blynyddoedd i ddod i helpu i ddatblygu gwelliannau pellach mewn cyrhaeddiad. |
4. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM5000 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi’r cais gan Nominet i Gorfforaeth y Rhyngrwyd ar gyfer Enwau a Rhifau a Neilltuir (ICANN) am ddau Barth Lefel Uchaf i Gymru, sef .cymru a .wales
2. Yn credu y bydd presenoldeb o’r fath ar y rhyngrwyd yn helpu i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol ac mewn twf e-fasnach; a
3. Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad i fabwysiadu’r ddau Barth Lefel Uchaf hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 3, dileu ‘Yn galw ar Gomisiwn' a rhoi yn ei le 'Yn galw ar Lywodraeth Cymru, ei hasiantaethau a Chomisiwn'
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi ar ddiwedd pwynt 3, ‘ac yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i annog cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i wneud yr un fath’.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd presenoldeb o’r fath ar y rhyngrwyd yn annog y defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd. |
5. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
NDM5001 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd ei Chynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Canser yn:
a) galluogi cynifer o bobl â phosibl i gael triniaeth canser mor agos at eu cartrefi â phosibl;
b) darparu ar gyfer cymorth i gleifion canser sy’n ei chael yn anodd teithio i’w canolfan driniaeth; ac
c) darparu ar gyfer cyngor ariannol ac ymarferol i ddioddefwyr canser.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt c)
‘gan gynnwys cyngor ar fudd-daliadau lles’
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod cleifion yng Nghymru bum gwaith yn llai tebygol na’r rheini yn Lloegr o gael cyffuriau canser mwy newydd.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod 24 o gyffuriau canser modern sydd ar gael yn rheolaidd nawr i gleifion yn Lloegr drwy ddefnyddio Cronfa Cyffuriau Canser Llywodraeth y DU ac yn gresynu nad yw'r rhain ar gael mor rhwydd i gleifion yng Nghymru.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa a fydd yn ei gwneud yn haws i gleifion yng Nghymru gael gafael ar driniaethau canser modern.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi toriadau Llywodraeth Cymru i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn 2012-13 a oedd yn fwy nag erioed o’r blaen, a bod modd i’r rhain beryglu gweithredu’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Canser. |
Cyfnod Pleidleisio |
6. Dadl Fer (30 munud)
NDM4999 Keith Davies (Llanelli)
Blaenoriaeth i Blismona
Trafod dyfodol Plismona yng Nghymru. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2012